Mae partneriaid a chyflenwyr yn hollbwysig i lwyddiant Rolls-Royce SMR. Yn ein tro, rydym yn awyddus i sicrhau y caiff llwyddiant ei rannu.
Mae proses gymeradwyo Rolls-Royce SMR yn seiliedig ar nifer o asesiadau, gan gynnwys System Rheoli Ansawdd, Gallu Gweithgynhyrchu a Chynllunio a Rheoli. Byddwn yn cynnal yr asesiadau hyn a byddant yn rhan o’r broses o ddod yn gyflenwr cymeradwyedig i Rolls-Royce SMR.
Mae Rolls-Royce SMR yn gofyn i’w gyflenwyr ymrwymo i’r Cod Ymddygiad ac integreiddio’r egwyddorion hyn yn eu cadwyn gyflenwi eu hunain.
Mae cael y berthynas iawn yn bwysig i Rolls-Royce SMR. Credwn mewn parchu’n gilydd. Mae hyn yn golygu ymgysylltu â chyflenwyr ar yr adeg iawn, ac yn unol â’n rhaglen. Bydd darparu’r nwyddau / cwmpasau gwaith i ni yn y ffurflen Cofrestru Diddordeb hon ar y Porth Cyflenwyr hwn yn ein galluogi i wneud hyn. Defnyddir yr un athroniaeth ar gyfer y broses cymeradwyo cyflenwyr.
Gofynion Cyflenwyr
Rydym yn chwilio am gadwyn gyflenwi sy’n defnyddio arbenigedd cyflenwyr niwclear sefydledig a chyflenwyr o’r tu allan i’r maes niwclear.
Know Your Partner (KYP). Fel rhan o’n diwydrwydd dyladwy, mae’n bwysig bod Rolls-Royce SMR yn deall pwy yw’n cadwyn gyflenwi, beth maen nhw’n ei wneud i ni, a pha risgiau y gallent eu hachosi i enw da’r cwmni, ynghyd ag unrhyw risgiau cyfreithiol a risgiau cydymffurfiad y gallent eu hachosi i’r cwmni.