Beth mae ar Rolls-Royce SMR ei eisiau gan y gadwyn gyflenwi?
Mae arno eisiau deall, cyfateb, datblygu a chynnal gallu’r gadwyn gyflenwi yn unol â gofynion y busnes.
Mae Rolls-Royce SMR wedi datblygu dogfen Gofynion y System Rheoli Cyflenwyr (SMSR) sy’n darparu set safonol o ofynion a phrosesau i’w cymhwyso rhwng Rolls-Royce SMR a’i gadwyn gyflenwi.
Mae’r SMSR yn seiliedig ar ofynion ISO 9001:2015, NQA-1, IAEA GSR Rhan 2 ac ASME. Yn ychwanegol at hyn, mae safon ryngwladol newydd (ISO 19443) wedi cael ei rhyddhau, ac mae cyrff ardystio a all archwilio cwmnïau yn erbyn y safon a rhoi ardystiad.
Mae Rolls-Royce SMR hefyd yn asesu yn erbyn unrhyw ganllawiau asesu technegol rheoleiddiol perthnasol ac yn cynnwys offer a thechnegau arferion gorau’r diwydiant, gan ddarparu’r sail ar gyfer cymeradwyo cyflenwyr Rolls-Royce SMR. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu newydd-ddyfodiaid i’r gadwyn gyflenwi ac yn cyflawni ein nodau cynaliadwyedd.
Mae’r broses o gymeradwyo cyflenwyr Rolls-Royce SMR yn seiliedig ar nifer o asesiadau, gan gynnwys System Rheoli Ansawdd, Gallu Gweithgynhyrchu a Chynllunio a Rheoli. Byddwn yn cynnal yr asesiadau hyn a byddant yn rhan o’r broses o ddod yn gyflenwr cymeradwyedig i Rolls-Royce SMR.